Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

24 Mehefin 2019

SL(5)418 – Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae'r Gorchymyn hwn yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoli Traffig 2004

Fe’u gwnaed ar: 05 Mehefin 2019

Fe’u gosodwyd ar: 06 Mehefin 2019

Yn dod i rym ar: 30 Mehefin 2019

SL(5)419 – Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae'r Gorchymyn hwn yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol a Dinas Casnewydd i


orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoli Traffig 2004

Fe’u gwnaed ar: 05 Mehefin 2019

Fe’u gosodwyd ar: 06 Mehefin 2019

Yn dod i rym ar: 01 Gorffennaf 2019

SL(5)420 – Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Torfaen) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae'r Gorchymyn hwn yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi’r gyfraith gan yr heddlu neu wardeniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rheoli Traffig 2004

Fe’u gwnaed ar: 05 Mehefin 2019

Fe’u gosodwyd ar: 06 Mehefin 2019

Yn dod i rym ar: 01 Gorffennaf 2019